Toulouse 30–14 Gweilch

Toulouse aeth a hi yn y frwydr ar frig grŵp 2 Cwpan Heineken yn y Stade Ernest-Wallon brynhawn Sadwrn, er i’r Gweilch chwarae’n dda am gyfnodau.

Dechreuodd y tîm cartref yn gryf gan sgorio dau gais yn y chwarter agoriadol ond brwydrodd y Gweilch yn ôl i’w gwneud hi’n gêm agos ar yr egwyl. Ond profodd pac y Ffrancwyr yn rhy gryf yn yr ail hanner ac enillodd Toulouse yn haeddiannol ac yn gyfforddus yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Toulouse yn dda ac fe ddaeth y cais cyntaf anorfod wedi dim ond wyth munud. Cododd Florian Fritz bêl rydd oddi ar y llawr a rhwygodd y canolwr trwy amddiffyn y Gweilch yn llawer rhy hawdd i sgorio o dan y pyst. Saith i ddim yn dilyn trosiad Luke McAllister.

Daeth yr ail gais wyth munud yn ddiweddarach ac roedd elfen o lwc yn perthyn i hwn. Disgynnodd y bêl yn garedig i Yannick Nyanga o lein flêr a brasgamodd y blaenasgellwr at y gornel i dirio.

Ond y Gweilch oedd y tîm gorau o hynny at ddiwedd yr hanner ac fe gawsant gais haeddianol toc wedi hanner awr o chwarae. Enillodd Ashley Beck gic gosb yn dilyn rhediad penderfynol trwy’r canol a chymerodd chwaraewr gorau’r gêm i’r Gweilch, Kahn Fotuali’i, hi’n gyflym gan sgorio o dan y pyst.

Dim ond pum pwynt ynddi felly yn dilyn trosiad Dan Biggar. A bu bron i Beck unioni’r sgôr gyda chais yn eiliadau olaf yr hanner ond llithrodd y bêl o’i afael yn yr eiliad dyngedfennol ar ddiwedd rhediad da arall.

Ail Hanner

Pethau’n edrych yn addawol i’r Cymry ar yr egwyl felly ond roedd Toulouse yn dîm gwahanol yn yr ail gyfnod.

Pwysodd a phwysodd y Ffrancwyr ar ddechrau’r ail ddeugain a daeth cais i’r asgellwr bach, Vincent Clerc, wedi chwarter awr o waith caled gan ei flaenwyr.

Dilynodd cais arall toc wedi’r awr ac un o’r blaenwyr oedd y sgoriwr y tro hwn – y cawr o brop, Census Johnston, yn tirio yn dilyn dadlwythiad destlus Louis Picamoles.

Ychwanegodd y cefnwr cartref, Yohan Huget, bumed cais yn y deg munud olaf i ymestyn y fantais i ugain pwynt cyn i eilydd brop y Gweilch, Ryan Bevington, sgorio cais cysur i’r Cymry.

Ond eilydd faswr Toulouse, Jean Marc Doussain, gafodd gau pen y mwdwl serch hynny gyda thri phwynt o gic olaf y gêm.

Mae’r Gweilch yn aros yn ail yng ngrŵp 2 er gwaethaf y canlyniad ond bydd disgwyl i Gaerlŷr neidio drostynt gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Treviso yfory, wrth i obeithion y Cymry yn y Cwpan Heineken bylu am flwyddyn arall.

.

Toulouse

Ceisiau: Florian Fritz 8’, Yannick Nyanga 16’, Vincent Clerc 56’, Census Johnston 62’, Yohan Huget 78’

Trosiad: Luke McAllister 8’

Cic Gosb: Jean Marc Doussain 80’

.

Gweilch

Ceisiau: Kahn Fotuali’i 33’, Ryan Bevington 78’

Trosiadau: Dan Biggar 33’, Matthew Morgan 78’