Kidderminster 2–0 Wrecsam

Methodd Wrecsam gyfle i godi i frig Uwch Gynghrair y Blue Square wrth golli yn erbyn Kidderminster yn Aggborough brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref ddwywaith yn yr ail hanner wrth i dîm Andy Morrell golli yn y gynghrair am y pedwerydd tro’n unig y tymor hwn.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe aeth Kidderminster ar y blaen toc cyn yr awr. Daeth croesiad Marvin Johnson o hyd i Jamille Matt yn y canol a churodd yntau Joslain Mayebi yn y gôl i’r Dreigiau.

Roedd rhaid i Wrecsam bwyso am gôl wedi hynny a gwnaeth Morrell sawl newid ymosodol gan gynnwys dod i’r cae ei hun. Ond un o eilyddion y tîm cartref a gafodd y gôl nesaf a hynny ym munud olaf y naw deg.

Dim ond newydd ddod i’r cae yn lle’r sgoriwr, Matt, yr oedd Nathan Bissett pan beniodd groesiad Mickey Demetriou i gefn y rhwyd.

Y Dreigiau’n dychwelyd adref yn waglaw felly pan fyddai buddugoliaeth wedi eu cadw ar frig y tabl. Mae Wrecsam, yn hytrach, yn disgyn i’r pedwerydd safle yn y Blue Square gyda Chasnewydd yn codi i’r brig.

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Vaughan, Demetriou, Dunkly, Gowling, Storer, Gittings (Vincent 87’), Briggs, Malbon (Rowe 78’), Johnson, Matt (Bissett 88’)

Goliau: Matt 57’, Bissett 90’

Cerdyn Melyn: Briggs 12’, Gittings 45’

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke (Hunt 61’), Wright (Morrell 74’), Ormerod, Rushton (Cieslewicz 64’)

.

Torf: 2,378