Arsenal 0–2 Abertawe


Sgoriodd Miguel Michu ddwy gôl hwyr wrth i Abertawe drechu Arsenal yn yr Emirates brynhawn Sadwrn.

Byddai gêm gyfartal oddi cartref yn Arsenal wedi bod yn ganlyniad digon da i gynnal rhediad da diweddar yr Elyrch, ond dwynodd Michu y pwyntiau i gyd i’r ymwelwyr o dde Cymru gyda dwy gôl yn y ddau funud diwethaf.

Cafwyd 87 munud di sgôr yng ngogledd Llundain cyn i’r Sbaenwr sydd bellach (ynghyd â Luis Suarez) yn brif sgoriwr y gynghrair sgorio’i gyntaf.

Cafwyd cyd chwarae dda rhyngddo ef a Luke Moore cyn iddo grymanu’r bêl heibio i Wojciech Szczesny yn y gôl i Arsenal.

Yna, gyda’r tîm cartref yn chwilio am gôl i unioni’r gêm fe sicrhaodd Michu y tri phwynt i Abertawe gyda’i ail gôl. Gwnaeth Nathan Dyer yn dda i greu’r cyfle i’r ymosodwr a churodd Michu Szczesny gyda steil unwaith eto.

Roedd Arsenal yn siomedig iawn ond rhaid rhoi clod i Michiael Laudrup a’i dîm. Mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i’r seithfed safle yn y tabl, dri phwynt yn unig i ffwrdd o safleoedd Cynghrair y Pencampwyr.

.

Arsenal

Tîm: Szczesny, Mertesacker, Vermaelen, Jenkinson, Gibbs, Arteta, Wilshere (Rosicky 79’), Walcott, Cazorla, Podolski (Giroud 67’), Gervinho (Oxlade-Chamberlain 66’)

Cerdyn Melyn: Vermalen 85’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu, Dyer, De Guzman (Tiendalli 74’), Ki Sung-Yeung, Shechter (Moore 67’)

Goliau: Michu 88’, 90’

Torf: 60,098