Dave Jones
Fe fydd wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul wrth i Dave Jones ddychwelyd gyda’i dîm diweddara’, Sheffield Wednesday.

Mae Caerdydd yn eistedd ar frig y Bencampwriaeth ac yn anelu am ddegfed buddugoliaeth gatref y tymor hwn.

Ac yntau wedi treulio chwe blynedd yng Nghaerdydd, mae’n siwr bydd yna groeso cymysg i Dave Jones ymysg  cefnogwyr y tîm cartref.

Un chwaraewr sy’n benderfynol o gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn ei gyn-reolwr yw gôl geidwad Caerdydd.

‘‘Mae’n rhaid i ni ennill ond rydym yn gwybod bod Dave wedi gwneud popeth er mwyn gwneud ei dîm yn llwyddiannus yma,’’ meddai Huw Marshall.

Ni fydd yr asgellwr Craig Noon ar gael wedi iddo gael ei ddanfon o’r cae yn ystod y gêm yn erbyn Derby.

Bydd y chwaraewr canol cae Simon Lappin yn dychwelyd o’i waharddiad ar ôl cael ei ddanfon o’r cae yn erbyn Barnsley yn y funud olaf.