Mae Warren Gatland o’r farn bod Cymru wedi cael cam gan ddyfarnwyr hyd yma yng nghyfres yr Hydref.

Ac mae wedi dweud wrth ei chwaraewyr i greu eu lwc eu hunain, yn hytrach na disgwyl am degwch gan y dyfarnwr.

Bydd y gêm yn erbyn Awstralia yfory yn gyfle ola’ i Gymru gael canlyniad positif yr Hydref hwn.

Mae Gatland wedi datgelu bod Cymru wedi derbyn dau ymddiheuriad gan ddyfarnwyr oherwydd penderfyniadau anghywir yn ystod gemau’r Hydref.

‘‘Dywedais wrth Craig Joubert (dyfarnwr Cymru yn erbyn Seland Newydd) fy mod yn edrych ar y gemau – dim i gwestiynu cywirdeb y dyfarnwyr, ond i roi bach o gyfle i ni fel ein gwrthwynebwyr mewn penderfyniadau anodd,’’ meddai Gatland.

‘‘Mae hi fel y sefyllfa yr hen yna gyda Manchester United, lle byddan nhw yn cael 70% o’r penderfyniadau 50/50,’’ ychwanegodd.

‘‘Yn y funud gyntaf yn y gêm yr wythnos diwethaf, gallai wedi bod yn garden goch yn y fan (i Andrew Hore a waldiodd Bradley Davies).  Yna cafodd Aaron Jarvis ei anafu wrth iddo geisio clirio Richie McCaw a ddaeth i fewn o’r ochr, heb ei gosbi.”