Michael Laudrup
Perfformiad hanner cynta’ Abertawe neithiwr oedd y cyfnod gorau o bêl-droed yr oedd Michael Laudrup wedi ei weld ers blynyddoedd.
Roedd Rheolwr yr Elyrch wrth ei fodd ar ôl i’w dîm guro West Bromwich Albion o 3-1 gyda’r holl goliau’n dod yn yr hanner cynta’.
“Roedd yr hanner cynta’n ffantastig,” meddai. “Ro’n i’n gallu eistedd yn ôl a mwynhau – fel rheol mae rheolwr yn chwilio trwy’r amser am rywbeth i’w wella.”
Arbenigwyr yn canmol hefyd
Roedd arbenigwyr y rhaglen deledu Match of the Day hefyd yn canmol y tîm o Gymru wrth iddyn nhw guro WBA sy’n drydydd yn yr Uwch Gynghrair.
Roedden nhw’n canmol Laudrup am ychwanegu elfen fwy miniog i chwarae Abertawe, gan adeiladu ar eu gallu i basio.
Yn ôl cyn chwaraewr Lerpwl Alan Hansen, roedden nhw bellach yn gallu ymosod yn gyflym hefyd ac roedd ganddyn nhw fwy o amrywiaeth.
Mae Abertawe bellach yn wythfed yn y tabl, gyda chwech o bwyntiau’n fwy nag oedd ganddyn nhw ar ôl yr un nifer o gemau’r llynedd.