Abertawe 3–1 West Brom

Mae Abertawe bellach yn wythfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ar ôl curo West Brom ar y Liberty nos Fercher.

Dechreuodd yr ymwelwyr o ganolbarth Lloegr y gêm yn drydydd ond rhuthrodd yr Elyrch ar y blaen gan sgorio tair yn y deugain munud cyntaf. Ac er i West Brom dynnu un yn ôl cyn yr egwyl roedd Abertawe wedi gwneud digon i sicrhau’r tri phwynt.

Cafodd y tîm cartref ddechrau perffaith i’r gêm ac roeddynt ddwy gôl ar y blaen wedi ychydig dros ddeg munud.

Rhwydodd Miguel Michu y gyntaf wedi i Pablo Hernandez ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi a gwnaeth Wayne Routledge hi’n ddwy yn dilyn mwy o waith creu gan Pablo.

Braidd yn ffodus oedd gôl gyntaf Routledge ond roedd ei ail bum munud cyn yr egwyl yn ergyd dda o ochr y cwrt cosbi. Tair i ddim felly a mynydd i’w ddringo i West Brom.

Ond fe roddodd Romelu Lukaku lygedyn o obaith iddynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth rwydo pedwaredd gôl yr hanner.

Methodd yr ymwelwyr ag ychwanegu at y gôl honno wedi’r egwyl, ac yn wir, Michu ac Abertawe a ddaeth agosaf at rwydo yn yr ail gyfnod.

Buddugoliaeth dda i’r Elyrch felly a buddugoliaeth sy’n codi tîm Michael Laudrup i’w wythfed safle yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu (Agustein 86’), Pablo (De Guzman 74’), Dyer (Moore 64’), Routledge, Ki Sung-Yeung

Goliau: Michu 9’, Routledge 11’, 39’

West Brom

Tîm: Myhill, Olsson, Ridgewell, McAuley, Jones, Yacob, Morrison, Brunt, Mulumbu, Lukaku, Odemwingie

Gôl: Lukaku 45’

Cardiau Melyn: McAuley 13’, Brunt 45’, Olsson 52’, Jones 90’

Torf: 20,377