Wayne Hennessey
Mae golwr Cymru Wayne Hennessey wedi ail-anafu ei ben-glin ac yntau ar fin dychwelyd i chwarae ar y lefel uchaf.
Cafodd golwr Wolverhampton Wanderers lawdriniaeth ar ei ben-glin ym mis Ebrill ac roedd yn dechrau adfer ei ffitrwydd pan anafodd ei ben-glin ddoe.
“Mae’n anodd achos mae’r bois physio wedi gwneud cymaint drosta i,” meddai Hennessey, sydd wedi chwarae 38 gwaith dros Gymru.
“Does dim pwynt tindroi ar y peth. Rhaid i fi ganolbwyntio ar ddod yn ffit unwaith eto – rwy wedi gwneud hynny unwaith a fe wna’i hynny eto.”
Dywedodd rheolwr Wolves Ståle Solbakken mai “dyma’r peth gwaethaf allai fod wedi digwydd i Wayne.”
“Mae’n ergyd fawr i Wayne ac i’r clwb ond gwnawn ni bopeth i’w helpu, yn enwedig yn ystod y cyfnod cynnar a fydd yn anodd iawn.”
Mae’r golwr o Ynys Môn wedi bod yn ddewis cyntaf i Gymru ac mae Chris Coleman yn paratoi at ddwy gêm ragbrofol arall ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Mawrth.