Wedi cipio tair buddugoliaeth yn olynol ac yn eistedd pwynt yn glir ar gopa’r Bencampwriaeth, mi fydd Caerdydd yn teithio i’r City Ground yn Nottingham â’r gwynt yn eu hwyliau.

Fe fydd rhaid i Craig Bellamy basio prawf ffitrwydd cyn y gêm.  Mae’r ymosodwr wedi methu llawer o gemau oherwydd anaf i’w ben-glin.

Ond mae Bellamy wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan yr wythnos hon.

Mae Jordon Mutch a Tommy Smith yn dychwelyd i ymarfer wedi iddyn nhw wella o’i anafiadau.

Gydag amheuon ynglŷn â Craig Bellamy, fe fydd cryn dipyn o bwyslais ar y chwaraewr canol cae, Peter Whittingham sydd wedi sgorio chwe gôl hyd yn hyn.