Cafodd Craig Bellamy flas garw ar chwarae'n yr Olympics
Mae FA Lloegr wedi claddu’r syniad o Brydain yn anfon tîm pêl-droed dynion i Gemau Olympaidd Rio 2016.

‘‘Y pincal yw Cwpan y Byd, hefyd mae gennym Pencampwriaeth Ewrop,” meddai Alex Horne, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

“Rwy’n gwybod bod y chwaraewyr yn falch o chwarae fel eu endidau unigol eu hunain ac ni fyddem am wneud unrhyw beth i beryglu hynny.  Roedd FIFA wedi derbyn hynny pan wnaethom gynnal y Gemau Olympaidd, mae’n amser symud ymlaen nawr.”

Ac mae Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn cytuno: ‘‘Un neud ddau oedd eisiau i Tîm GB fynd yn ei flaen, ond ar ôl colli yn y Gemau Olympaidd doedd yna ddim llawer o sôn am gario ymlaen.”