Mae ymosodwr yr Elyrch, Danny Graham, yn gobeithio y bydd nifer o sêr yn ymrwymo i Abertawe, ar ôl i gôl geidwad Abertawe, Michael Vorm, arwyddo cytundeb gyda’r Elyrch er gwaethaf diddordeb cryf gan fannau eraill yn yr Uwch Gynghrair.
Fe wnaeth Vorm arwyddo cytundeb ar ddiwedd mis Medi a fydd yn sicrhau y bydd yn y clwb tan 2016. Gyda’r sgwrs am ail-arwyddo o’r fath yn codi, mae Graham yn obeithiol y bydd chwaraewyr fel Neil Taylor a Ashley Williams yn ymrwymo eu hunain i Abertawe.
‘‘Mae Michael wedi bod yn anhygoel ers iddo ymuno â’r clwb. Mae ganddo bob nodwedd i fod yn un o’r goreuon yn yr Uwch Gynghrair,’’ meddai Graham.