Rhys Priestland
Mae maswr y Scarlets, Rhys Priestland yn credu bod y Scarlets wedi paratoi’n gryf yn feddyliol ar gyfer y gêm agoriadol yng nghwpan yr Heineken yn erbyn Clermont Auvergne yn Stade Marcel Michelin.
Does neb wedi curo Clermont mewn 47 gêm yn Stade Marcel Michelin.
‘‘Mae’n mynd i fod yn gêm anodd y penwythnos yma, ond rwy’n credu ein bod yn gryf yn feddyliol i ddelio a hynny,’’ meddai Priestland.
‘‘Os oes unrhyw dîm am guro Clermont ar dir Stade Marcel, bydd rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth arbennig. Rydym yn garfan uchelgeisiol ac yn obeithiol o ddod i ffwrdd â phwyntiau’r penwythnos yma,’’ ychwanegodd.