Brendan Rodgers
Fe fydd Abertawe yn gobeithio codi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Coventry heno.

Mae’r tîm yn y trydydd safle ar hyn o bryd ac yn llawn hyder ar ôl maeddu Doncaster 3 – 0 dros y penwythnos.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, bod y gêm yn erbyn Coventry yn un holl bwysig i’r Elyrch.

“Roedd ein perfformiad yn erbyn Doncaster yn dda iawn o ystyried nad oes unrhyw gemau hawdd yn y Bencampwriaeth,” meddai Brendan Rodgers.

“Mae gêm Coventry yn un holl bwysig i ni. Mae gennym ni 14 gêm ar ôl i’w chwarae cyn diwedd y tymor.”

Mae tîm Aidy Boothroyd yn chwarae steil gwahanol iawn i dîm Brendan Rodgers, gan roi’r pwyslais ar fwrw’r bêl lan y cae yn hytrach na’i basio o droed i droed.

“R’yn ni a Coventry yn chwarae steiliau gwahanol iawn. Alla’i ddim dweud mai ein steil ni yw’r un cywir, ond mae’n gweithio hyd yma,” ebe Rodgers.