James Hook
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud un newid i’r tîm fydd yn wynebu’r Eidal ddydd Sadwrn.
Mae Stephen Jones yn dychwelyd i safle’r maswr a James Hook yn symud i’r canol.
Fe ddaw’r newid ar ôl i ganolwr y Scarlets, Jonathan Davies, fethu a gwella o anaf a ddioddefodd yn erbyn yr Alban mewn pryd i wynebu’r Eidalwyr.
Mae’n golygu bydd Hook yn chwarae yn ei drydydd safle gwahanol mewn tair gêm dros Gymru, ar ôl chwarae yn safle’r cefnwr yn erbyn Lloegr.
Fe fydd Hook yn ennill ei 50fed gap i Gymru tra bod Stephen Jones yn ymddangos am y 98ain tro dros ei wlad.
Yr unig newid arall i’r garfan yw bod asgellwr y Gleision, Leigh Halfpenny, wedi ei gynnwys ar y fainc ar ôl gwella o anaf i’w bigwrn.
“R’yn ni wedi dewis y garfan gryfa’ posib gan ddangos pob parch i’r Eidal. R’yn ni’n ymwybodol o ba mor anodd yw e i’w wynebu nhw yn Rhufain,” meddai Warren Gatland.
Does dim un newid ymysg y blaenwyr ac mae hyfforddwr ymosodwyr Cymru, Rob Howley, wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog o gael y gorau o flaenwyr yr Eidal.
“Mae gennym ni ffydd yn y blaenwyr ac maen nhw wedi gwneud yn dda iawn hyd yma. R’yn ni’n disgwyl perfformiad tebyg yn erbyn yr Eidal,” meddai.
“Roedd rhaid i ni wneud un newid ymysg y cefnwyr am nad oedd Jonathan yn barod yn barod yn dilyn ei anaf yn erbyn yr Alban.
“Y penderfyniad amlwg oedd symud James i’r canol gyda Jamie Roberts, a dod a Stephen i safle’r maswr.”
Carfan Cymru
Cefnwyr- Lee Byrne (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), James Hook (Gweilch), Shane Williams (Gweilch ), Stephen Jones (Scarlets), Mike Phillips (Gweilch).
Blaenwyr- Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau ), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).
Eilyddion- Richard Hibbard (Gweilch ), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision).