Casnewydd 1–0 Ebbsfleet


Mae Casnewydd bum pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl curo Ebbsfleet ar Rodney Parade nos Fawrth.

Roedd gôl Ismail Yakubu yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh.

Peniodd Yakubu gic gornel Andy Sandell heibio Preston Edwards yn y gôl i Ebbsfleet wedi hanner awr o chwarae i roi’r tîm cartref ar y blaen. Hon oedd pumed gôl yr amddiffynnwr y tymor hwn.

Ebbsfleet oedd y tîm gorau wedi’r egwyl ond amddiffynnodd y Cymry yn ddewr a bu bron i Aaron O’Connor ddyblu’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner ond clirwyd ei gynnig oddi ar y llinell. Roedd un gôl yn ddigon i Gasnewydd serch hynny i sicrhau degfed buddugoliaeth mewn pedair gêm ar ddeg.

Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Tamworth yn Forest Green yn golygu fod Casnewydd bellach bum pwynt yn glir ar frig tabl y Blue Square. Ond gall Wrecsam gau’r bwlch i dri phwynt wrth iddynt herio Stockport nos fory.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Pipe, Porter, Minshull, Swallow (Charles 68’), Sandell, Thomson (Flynn 70’), O’Connor, Crow (Louis 27’)

Gôl: Yakubu 30’

Ebbsfleet

Tîm: Edwards, Ada, Lorraine, Stone, Marwa (Barrett 46’), Phipp (Marum 57’), Howe, Bellamy, Soares, Elder (Walsh 67’), Ashikodi

Torf: 2,453