Jamie Roberts
Mae Prif Weithredwr rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd wedi dweud y bydd prif ganolwr Cymru’n symud i Ffrainc oni bai fod Undeb Rygbi Cymru’n helpu talu ei gyflog.
Bydd cytundeb Jamie Roberts yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ac mae cryn ddyfalu wedi bod am ei ddyfodol gyda rhai o brif glybiau Ffrainc yn awyddus i’w arwyddo.
Mae’r cewri Ffrengig, Toulouse, wedi bod yn monitro sefyllfa Roberts ers peth amser, tra bod Racing Metro wedi dangos diddordeb yn fwy diweddar.
Yn ôl Richard Holland, prif weithredwr y rhanbarth, does dim modd i’r Gleision gystadlu â’r lefel cyflog sy’n cael ei gynnig gan glybiau Ffrainc.
Wrth siarad â Wales Online, dywedodd fod rhaid i Undeb Rygbi Cymru weithredu nawr os ydynt am gadw chwaraewyr rhyngwladol yng Nghymru.
“Mae cytundeb Jamie’n dod i ben fis Mehefin nesaf, felly mae clybiau Ffrengig eisoes wedi cysylltu ag efo” meddai Holland.
“Mae’n arf mae pobol eraill eisiau yn eu timau. Mae angen i ni ymladd i geisio ei gadw, ond mae fy adnoddau’n gyfyngedig.”
“Dwi ddim yn credu bydd yr hyn rydw i’n gallu ei gynnig yn ddigon i’w gadw.”
Cytundebau canolog
Awgrymodd Holland fod rhaid i’r Undeb Rygbi gyflwyno cytundebau canolog os ydy rhanbarthau Cymru am allu cystadlu â chlybiau Ffrengig.
“Dwi’n gwybod pa lefel [cyflog] sydd angen i ni gyrraedd er mwyn ei gadw ond dyw e’ ddim gen i”
“Ble arall all yr arian ddod yw’r union drafodaeth sy’n digwydd rhwng y rhanbarthau a URC. Sut allwn ni gynnig rhywbeth i’r chwaraewyr fydd yn eu cadw yma? Ar hyn o bryd, dwi ddim yn gwybod yr ateb.”
“Mae URC yn rhoi swm mawr o arian i ni, ond y ffaith yw does nad oes digon gyda ni i gadw’r chwaraewyr rhyngwladol yma.”
“Mae’r rhaid i ni aros o fewn yr uchafswm gwariant cyflog o £3.5m, ac fel busnes allwn ni ddim ond gwario beth sy’n dod i mewn.”
“Dwn i ddim ar hyn o bryd os fydd URC yn dod a’r adnoddau ychwanegol er mwyn cadw Jamie.”
“Eu penderfyniad nhw ydy hyn yn y pendraw, nid fy un i. Ond yn achos Jamie, a rhai o’r bois eraill mae’n rhaid ymdrin â’r mater yn gyflym. Fel arall byddan nhw’n gadael.”