Caerdydd 2–1 Birmingham


Mae Caerdydd wedi codi i frig y Bencampwriaeth ar ôl curo Birmingham yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Sgoriodd Craig Bellamy yn yr hanner cyntaf i roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Leroy Lita unioni pethau’n gynnar yn yr ail gyfnod. Ond adferodd Mark Hudson fantais y Cymry yn fuan wedyn a daliodd yr Adar Gleision eu gafael tan y diwedd i godi i frig y tabl.

Daeth y gôl agoriadol i Bellamy tua phum munud cyn yr egwyl wedi i Hudson ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal yn fuan wedi’r egwyl diolch i Lita o bawb, y chwaraewr sydd ar fenthyg o Abertawe. Cafodd y blaenwr ei lorio gan Hudson tu allan i’r cwrt cosbi cyn sgorio o gic rydd ganlynol Wade Elliott.

Ac roedd Hudson yn ei chanol hi eto ychydig funudau’n ddiweddarach, yn adfer y fantais i’w dîm yn y pen arall. Gôl ddigon blêr oedd hi yn deillio o gic gornel Peter Wittingham ond doedd yr un o’r cefnogwyr cartref yn cwyno gan fod y gôl honno’n ddigon i sicrhau pumed buddugoliaeth gartref yn olynol i Gaerdydd.

A gan mai dim ond gêm gyfartal gartref yn erbyn Ipswich a gafodd Brighton, mae tri phwynt Caerdydd yn ddigon i’w codi i frig tabl y Bencampwriaeth, bwynt o flaen Caerlŷr yn yr ail safle.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Noone (Kim Bo-Kyung 84’), Gunnarsson, Mason, Helguson, Bellamy (Conway 79’)

Goliau: Bellamy 39’, Hudson 57’

Cardiau Melyn: Hudson 53’, Bellamy 71’

Birmingham

Tîm: Butland, Caldwell, Davies, Spector, Packwood (Hurst 52’), Robinson, Burke, Elliott, Fahey, Lovenkrands (Redmond 74’), Lita (King 66’)

Gôl: Lita 53’

Cerdyn Melyn: Davies 56’

Torf: 20,278