Mae yna amheuon a fydd gôl-geidwad Cymru,
Boaz Myhill
ar gael ar gyfer dwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Croatia a’r Alban.

Mae’r chwaraewr wedi cael triniaeth ar ei fys bawd, a does dim disgwyl iddo fod yn holliach am o leiaf bythefnos.

Cafodd ei ddewis am ddwy gêm agoriadol y rowndiau rhagbrofol yn lle Wayne Hennessey, sydd wedi ei anafu ers mis Ebrill.

Bydd Cymru’n herio’r Alban ar Hydref 12 ac yna Croatia ar Hydref 16.

Roedd disgwyl i Boaz Myhill ddechrau’r ddwy gêm, er gwaetha’r ffaith ei fod wedi chwarae un gêm yn unig i’w glwb, West Bromwich Albion y tymor hwn.