Lido Afan 2–3 Y Drenewydd


Cafwyd drama hwyr yng ngêm fyw Sgorio yn Stadiwm Marstons brynhawn Sadwrn wrth i’r Drenewydd gipio’r tri phwynt diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan gapten Lido Afan, Mark Jones.

Yn dilyn hanner cyntaf hynod ddiflas fe aeth yr ymwelwyr o’r canolbarth ar y blaen ddwywaith yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner ond tarodd Lido’n  ôl ar y ddau achlysur. Yna, gydag ychydig funudau ar ôl fe enillodd yr ymwelwyr y gêm gyda gôl hynod flêr o safbwynt Lido Afan.

Cafwyd hanner cyntaf hynod ddiflas a phrin iawn oedd y cyfleoedd. Bu Anthony Rowlings yn wastraffus gydag unig gyfle Lido Afan a dylai Steve Blenkinsop fod wedi gwneud yn well gyda pheniad rhydd yn y pen arall.

Dechreuodd yr ail hanner dipyn gwell ar roedd y Drenewydd ar y blaen wedi deg munud pan rwydodd Blenkinsop yn y canol yn dilyn gwaith da ar y chwith.

Ond munud yn unig a barodd y fantais cyn i ergyd galed Kieran Howard guro Dave Roberts yn dilyn dyfalbarhad Mark Jones yn y cwrt cosbi.

Adferodd Zac Evans y fantais o’r smotyn ddau funud yn ddiweddarach yn dilyn llawiad Howard yn y cwrt cosbi ond unionodd Lido am yr eildro gyda pheniad penderfynol Paul Evans ugain munud o’r diwedd.

Ac roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai hi’n gorffen cyn i lanast amddiffynnol gan Lido gyflwyno’r tri phwynt i’r Drenewydd bum munud o’r diwedd. Dewisodd Christopher Curtis ddyrnu croesiad yn hytrach na chasglu’r bêl ac adlamodd yn erbyn Mark Jones ac yn syth yn ôl i’r rhwyd.

Camgymeriad erchyll gan y golwr ond buddugoliaeth haeddianol i’r Drenewydd.

Ymateb y Rheolwyr

Doedd rheolwr Lido, Paul Reid, ddim yn ddyn hapus iawn ar y diwedd:

“Camgymeriadau unigol gostiodd y gêm i ni, ddywedon ni cyn y gêm bod rhaid dileu’r rheiny ond wnaethon ni ddim. Y chwaraewyr yw’r unig rai all gael eu hunain allan o’r twll yma.”

Roedd Bernard McNally, rheolwr y Drenewydd ar y llaw arall yn falch fod ei dîm wedi ennill y gêm ar y trydydd cynnig:

“Roedd hi’n hanfodol ein bod ni’n cael y tri phwynt heddiw ac fe ddangoson ni gymeriad cryf i wneud hynny.  Mae’n siomedig ein bod ni wedi eu gadael nhw nol i’r gem ar ôl bod ar y blaen ddwywaith ond roedden ni’n benderfynol i ddal ein gafael ar ôl sgorio’r drydedd.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Drenewydd i’r hanner uchaf ac i’r chweched safle yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru tra mae Lido’n aros un lle o waelod y tabl.

.

Lido Afan

Tîm: Curtis, Hudson, Evans, James, Hartshorn, Jones, Rawlings (Hartland 64′), Howard,  Borrelli, Gammond (Thompson 78′), Doyle

Goliau: Howard 55’, Evans 72’

Y Drenewydd

Tîm: Roberts, Sutton, Edmunds, Mills-Evans, Hogan, Williams (Boundford 68’), Ward, Blenkinsop, Jamie Price, (Cook 80′), Whitfield, (Z. Evans 32’), Partridge

Goliau: Blenkinsop 54’, Z. Evans (c.o.s.) 58’, Jones, (g.e.h.) 85’

Cerdyn Melyn: Boundford 72’

Torf: 333