Nuneaton 0–0 Wrecsam

Mae rhediad Wrecsam heb golli yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn parhau yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Nuneaton ar Liberty Way brynhawn Sadwrn.

Nid yw’r Dreigiau wedi colli ers ail gêm y tymor ond gallai’r pwynt hwn fod wedi bod yn dri wedi i dîm Andy Morrell wastraffu cyfleoedd i ennill y gêm.

Cafodd Martin Riley gyfle i’r Dreigiau wedi chwarter awr ond peniodd gic gornel Dean Keates dros y trawst.

Fe wnaeth Andy Bishop ddod o hyd i gefn rhwyd Nuneaton ddeg munud cyn yr egwyl ond roedd ei beniad wedi gwyro oddi ar gefn Keates ag yntau’n camsefyll.

Yn y pen arall, bu rhaid i Joslain Mayebi atal ymdrech Wesley York cyn i Andy Morrell wneud sawl newid ymosodol yn y chwarter awr olaf.

Anfonodd Adrian Cieslewicz a a Robert Ogleby ar y cae i geisio gôl fuddugol i ddechrau cyn camu ar y cae ei hunan. A daeth yn hynod agos yn yr eiliadau olaf hefyd ond bodloni ar bwynt fu rhaid iddo.

Ac mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i gadw’r Dreigiau yn drydydd yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square.

Ymateb Morrell

Teimladau cymysg oedd gan Andy Morrell wrth siarad â’r BBC ar ôl y gêm.

“Weithiau rydyn ni’n aros am rywbeth i’n tanio ni, gôl yn ein herbyn yw’r peth hwnnw fel arfer ond rydyn ni’n falch iawn o gadw llechen lân oddi cartref eto…

… Rydym eisiau ennill gemau, ond mae gennym bwynt ac mae’r rhediad heb golli’n parhau felly mae yna bwyntiau calonogol. Ond rwyf dal yn meddwl y dylen ni fod wedi curo.”

.

Nuneaton

Tîm: McNamara, Cowan, Dean, Gordon, O’Halloran, Walker, Armson, Sleath, Ford (Thompson-Brown 64’), York (Perry 83’), Brown

Cerdyn Melyn: York 78’

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Riley, Walker, Westwood, Harris, Keates, Hunt, Wright (Ogleby 78’), Ormerod (Cieslewicz 76’), Bishop (Morrell 86’)

Cardiau Melyn: Riley 32’, Ashton 68’

Torf: 1,543