Casnewydd 0–0 Grimsby
Mae Casnewydd wedi ildio eu lle ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Grimsby ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Bu rhaid i gôl-geidwad yr ymwelwyr, James McKeown, fod ar flaenau’i draed wedi dim ond dau funud i arbed cic rydd Andy Sandell o bellter.
Cafodd Aaron O’Connor a Danny Crow gyfleodd i Gasnewydd hefyd ond cyrhaeddodd McKeown y bêl o flaen O’Connor cyn i ymdrech Crow gael ei chlirio oddi ar y llinell.
Di sgôr ar yr egwyl felly ac er gwaethaf pwyso Casnewydd yn yr ail hanner hefyd felly yr arhosodd hi tan y diwedd. A gallai pethau fod wedi bod yn waeth pe na bai Lenny Pidgeley wedi llwyddo i atal ergyd Joe Colbeck.
Casnewydd yn gorfod bodloni ar bwynt felly ac maent yn disgyn i’r ail safle yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square o ganlyniad i fuddugoliaeth Forest Green nos Wener.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Pipe (Flynn 80’), Porter, Minshull, Sandell, Thomson, O’Connor, Crow, Louis (Swallow 66’)
Cerdyn Melyn: Louis 61’
Grimsby
Tîm: McKeown, Thomas, Pearson, Colbeck, Disley, Artus, Wood, Pond, Neilson (Thanoj 86’) , Cook (Elding 79’), Hannah (Southwell 86’)
Cerdyn Melyn: Hannah 78’
Torf: 2,968