Millwall 0–2 Caerdydd


Mae rhediad da Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Millwall oddi cartref yn y Den nos Fawrth.

Roedd goliau Peter Wittingham a Craig Noone yn gynnar yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau trydydd tri phwynt o’r bron i dîm Malky Mackay.

Cafwyd hanner cyntaf di sgôr yn nwyrain Llundain ond roedd Caerdydd ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod. Derbyniodd Wittingham y bêl gan Noone ar ochr y cwrt cosbi cyn anelu ergyd gywir i’r gornel uchaf allan o gyrraedd Maik Taylor, y gôl-geidwad cartref.

Ac ar ôl creu’r gyntaf, fe sgoriodd Noone ei hunan ddau funud yn ddiweddarach i ddyblu mantais yr ymwelwyr. Derbyniodd y bêl gan Tommy Smith yn y cwrt cosbi cyn curo Taylor.

Cafodd Noone gyfle i ychwanegu trydedd yn hwyrach yn yr hanner ond llwyddodd Taylor i’w atal y tro hwnnw. Ond roedd dwy yn hen ddigon wrth i’r Adar Gleision ddychwelyd dros y bont i Gymru gyda’u buddugoliaeth gyntaf o’r tymor oddi cartref.

Ond mae Caerdydd yn aros yn y pumed safle yn y Bencampwriaeth er gwaethaf y fuddugoliaeth gan i bob tîm yn y pump uchaf ennill nos Fawrth.

.

Millwall

Tîm: M. Taylor, Dunne, Lowry, Osborne, Malone, Wright (C. Taylor 57’), Trotter, Henry (Batt 79’), Abdou, Henderson (Wood 57’), Keogh

Cardiau Melyn: Dunne 48’, Lowry 49’

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Noone (Kim Bo-Kyung 80’), Gunnarsson, Mutch, Smith, Maynard (Helguson 67’)

Goliau: Wittingham 53’, Noone 55’

Cardiau Melyn: Smith 67’, McNaughton 74’

Torf: 9,295