James Harris
Mae’r bowliwr cyflym o Dre-gŵyr, James Harris wedi ei ddewis i gynrychioli tîm Rhaglen Berfformio Lloegr yn ystod y gaeaf.
Mae Harris wedi ei gynnwys yn y garfan o 17 a fydd yn teithio i India ym mis Tachwedd.
Cyhoeddodd Harris, sy’n 22 oed, ei fod am adael Morgannwg er mwyn brwydro am le yn nhîm Lloegr.
Mae yna adroddiadau ei fod e wedi cael cynnig cytundeb gan Swydd Nottingham ar gyfer y tymor nesaf.
Penderfynodd adael yn sgil cymal yn ei gytundeb sy’n caniatáu iddo symud i sir sydd yn adran gyntaf y bencampwriaeth neu’r gynghrair undydd.
Carfan Rhaglen Berfformio Lloegr: Jos Buttler (Gwlad yr Haf), Gary Ballance (Swydd Efrog), Scott Borthwick (Durham), Danny Briggs (Hampshire), Varun Chopra (Swydd Warwick), Matthew Coles (Caint), Jade Dernbach (Surrey), Ben Foakes (Essex), James Harris (Morgannwg), Simon Kerrigan (Swydd Gaerhirfryn), Craig Kieswetter (Gwlad yr Haf), Stuart Meaker (Surrey), Azeem Rafiq (Swydd Efrog), Toby Roland-Jones (Middlesex), Ben Stokes (Durham), James Taylor (Swydd Nottingham), Chris Wright (Swydd Warwick)