Elinor Barker, canol, gyda Cecile Ludwig a Demi de Jong
Y Gymraes, Elinor Barker yw pencampwraig seiclo ffordd y byd, ar ôl ennill ras yn erbyn y cloc i ferched dan 19.

Gorffennodd y ferch o’r Waun yng Nghaerdydd y ras yn yr Iseldiroedd mewn 22:00:26, gan drechu Cecilie Ludwig o Ddenmarc o 35 eiliad.

Demi de Jong, o’r Iseldiroedd, ddaeth yn drydydd.

Cymraes arall, Nicole Cooke, oedd y ferch ddiwethaf o Brydain i gipio’r fedal aur yn y gystadleuaeth hon, a hynny yn 2001.