Mae Ysgrifennydd Uwchgynghrair Corbett Sports Cymru wedi dweud fod nifer y torfeydd sy’n dod i wylio’r gemau yn rhywbeth i bryderu amdano os yw’r patrwm presennol yn parhau.
Ar gyfartaledd eleni mae 291 o bobol wedi bod i bob gêm, sydd 12% yn is na’r cyfartaledd y llynedd, a dywed Gwyn Derfel nad oes un ateb hawdd ar gyfer codi torfeydd.
“Mae hi dal yn gynnar yn y tymor a dylai’r gemau sy’n cyfri ar ddiwedd y tymor wthio’r cyfartaledd i fyny,” meddai Gwyn Derfel.
Dywed Gwyn Derfel fod safon y chwarae a’r caeau yn uchel iawn, a bod y ffaith fod Craig Jones, Rhys Griffiths a Lee Trundle wedi mynd o’r gynghrair eleni i chwarae yn broffesiynol yn Lloegr yn brawf o safon uchel y pêl-droed.
Gemau byw ar S4C
Mae Gwyn Derfel, sydd ar ei dymor cyntaf yn Ysgrifennydd, yn cydnabod fod rhai yn penderfynu aros adre i wylio gemau byw o’r gynghrair ar S4C ond bod y gemau ar y teledu yn “arf pwysig” ar gyfer arddangos safon y chwarae a chodi proffil y gynghrair.
Ond dywedodd fod “rhai carfanau o’r wasg” ddim yn rhoi digon o sylw i’r gynghrair a bod clybiau’n gweithio ar ffyrdd o ddenu cefnogwyr newydd.
“Mae Port Talbot yn un clwb sy’n cyflogi swyddog cymunedol er mwyn hyrwyddo’r clwb yn lleol, a mae Lido Afan yn cynnig mynediad hanner pris i Albanwyr sydd â thocyn Cymru-yr Alban trannoeth y gêm ryngwladol fis nesaf.”
Llwyddiant Abertawe
Dywedodd fod y sylw mae Abertawe a Chaerdydd yn ei gael yn dda i bêl-droed yng Nghymru ond bod llwyddiant Abertawe, sy’n agos at frig uwchgynghrair Lloegr, wedi cael “effaith negyddol” ar dorfeydd y clybiau sydd o fewn dalgylch y ddinas.
“Dwi’n cofio gyrru i gêm ym Mhort Talbot a gweld bod y tafarnau yn llawn o bobol yn gwylio Abertawe yn fyw trwy sianeli Ewropeaidd, a thorf lai o faint oedd yn y gêm ei hun.”
Dywed Gwyn Derfel fod angen caniatáu tri thymor arall ar y deuddeg disglair i weithio. Mae rhai wedi cynnig chwarae yn ystod yr haf, fel maen nhw’n dweud yn Iwerddon, ond gwadodd fod hynny’n opsiwn ar hyn o bryd.
“Mae chwarae yn yr haf yn hen gwestiwn. Does dim byd oddi ar yr agenda, ond hyd yma mae’r clybiau wedi gwrthwynebu chwarae yn ystod yr haf a byddai’n rhaid ystyried barn darlledwyr a chynghreiriau eraill Cymru hefyd.”