Bala 1–2 Prestatyn

Mae dechrau gwych Prestatyn i’r tymor yn parhau wedi buddugoliaeth yn erbyn y Bala o flaen camerâu Sgorio ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Er i Lee Hunt roi’r tîm cartref ar y blaen fe darodd Andy Parkinson a Ross Stephens yn ôl i dîm Neil Gibson wrth iddynt aros yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru.

Daeth y cyfle cyntaf i Brestatyn wedi chwarter awr ond ergydiodd Parkinson yn syth at Ashley Morris yn dilyn gwaith gwych yng nghanol y cae gan Gibson.

Ond roedd y Bala ar y blaen funudau yn ddiweddarach diolch i Hunt â’i gôl gyntaf o’r tymor. Daeth Ian Sheridan o hyd i’w gyd ymosodwr gyda phas dda a sgoriodd Hunt gyda hanner foli dda ar y cynnig cyntaf o 18 llath.

Roedd Prestatyn yn well wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal wedi hanner awr pan sgoriodd Parkinson ei bumed gôl o’r tymor a gôl fach daclus oedd hi hefyd. Roedd ergyd Ross Stephens yn mynd heibio’r postyn pan wyrodd Parkinson hi’n fwriadol gyda’i fron i gefn y rhwyd.

Yna, ddau funud cyn yr egwyl cafodd Paul O’Neill ei lorio gan Michael Byron yng nghwrt cosbi’r Bala ac anelodd Ross Stephens y gic o’r smotyn ganlynol yn gywir i’r gornel isaf.

Prestatyn oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd a bu rhaid i Morris wneud sawl arbediad da i gadw’r Bala yn y gêm. Gwnaeth yn dda i atal Chris Davies a Ross Stephens ddwywaith.

Bu rhaid i John Hill-Dunt wneud un arbediad hwyr pwysig o gic rydd Mark Jones hefyd wrth i Brestatyn ennill y gêm yn haeddianol.

Seren y Gêm

Chwaraewr canol cae Prestatyn, Gareth Wislon oedd seren y gêm ac roedd yn hapus iawn ar y diwedd:

Rydan ni’n blês iawn gyda’r fuddugoliaeth. Roedden nhw’n chwarae’r bêl hir ond fe chwaraeon ni bêl droed da ar adegau felly roedden ni’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth.”

Mae’r canlyniad yn cadw Prestatyn yn yr ail safle ond parhau i dangynflawni mae’r Bala wrth iddynt ddisgyn i waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru.

Y Bala

Tîm: Morris, Irving, Davies (Collins 74’), Byron, Edwards, Murtagh (Brown 60’), Lunt, Jones, Connally, Sheridan, Hunt

Gôl: Hunt 17’

Cerdyn Melyn: Murtagh 42’

Prestatyn

Tîm: Hill-Dunt, Davies, Stones, O’Neill, Hayes, R. Stephens, Wilson, A. Stephens, Gibson (Owen 88’), Parkinson, Price

Goliau: Parkinson 29’, R. Stephens (c.o.s.) 42’

Cerdyn Melyn: Davies 15’

Cerdyn Coch:

Torf: 205