Barrow 0–3 Casnewydd
Dychwelodd Casnewydd i frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Barrow ar Stryd Holker brynhawn Sadwrn.
Cafodd y gic gyntaf ei gohirio am dros awr oherwydd damwain gyfagos ond pan gychwynodd y gêm yn y diwedd dim ond un tîm oedd ynddi.
Rhoddodd Lee Evans yr ymwelwyr ar y blaen funud cyn yr egwyl cyn i Danny Crow selio’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl yn yr ail hanner.
Daeth y gyntaf ugain munud o’r diwedd yn dilyn gwaith creu Tony James a’r ail saith munud yn ddiweddarach pan beniodd groesiad Andy Sandell heibio i Danny Hurst yn y gôl i Barrow.
Cafodd Crow gyfle i gwblhau ei hatric bum munud o’r diwedd wedi i’r eilydd, Ben Swallow, gael ei lorio yn y cwrt cosbi ond methu’r gic o’r smotyn a wnaeth Crow.
Dim tair gôl i’r ymosodwr felly ond tri phwynt i’w dîm a thri phwynt sydd yn ddigon i’w codi yn ôl i frig tabl y Blue Square hefyd. Gemau cyfartal yn unig a gafodd Luton, Wrecsam, Forest Green a Maclesfield felly Casnewydd oedd yr unig dîm yn y pum uchaf i ennill.
Barn y Rheolwr
Roedd rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, yn ddyn hapus iawn wrth siarad â’r BBC wedi’r gêm:
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n wych heddiw. O’r dechrau i’r diwedd fe chwaraeon ni beth stwff arbennig ac roeddem yn llawn haeddu ein buddugoliaeth.”
Barrow
Tîm: Hurst, Anderson (Hessey 46’), Aldred, Skelton (Moore 73’), Pearson, Rutherford, Baker, Rowe, Boyes, Jackson (McConville 72’), Hunter
Cerdyn Melyn: Jackson 72’
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, James, Yakubu(Hughes 84’), Pipe, Porter, Minshull (Swallow 78’), Sandell, Evans, Flynn, O’Connor (Louis 71’), Crow
Goliau: Evans 44’, Crow 70’, 77’
Torf: 802