Luton 0–0 Wrecsam

Di sgôr oedd hi rhwng Luton a Wrecsam ar Ffordd Kenilworth yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn.

Cafodd y Dreigiau ddigon o gyfleoedd, yn enwedig yn yr ail hanner, ond bu rhaid iddynt ddychwelyd i ogledd Cymru gyda phwynt yn unig yn y diwedd.

Fe gafodd Wrecsam ddechrau digon da i’r gêm ond ychydig o gyfleoedd a gafwyd yn yr hanner cyntaf. Wedi dweud hynny bu bron i Adrian Cieslewicz roi’r ymwelwyr ar y blaen toc wedi chwarter awr o chwarae ond llwyddodd y gôl geidwad, Mark Tyler, a’r amddiffynnwr, Jake Howells, rhyngddynt i’w atal.

Daeth mwy o gyfleoedd i’r Dreigiau wedi’r egwyl; dau o’r rheiny i Johny Hunt ond ergydiodd heibio’r postyn ar y ddau achlysur.

Janos Kovacs a gafodd gyfle gorau Luton ond peniodd yn syth at Joslain Mayebi a bu bron i Andy Bishop gipio’r tri phwynt i Wrecsam yn y munudau olaf ond cafodd ei atal gan Tyler.

Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar un pwynt yn unig felly ac maent yn disgyn un lle i’r pedwerydd safle yn nhabl y Blue Square o ganlyniad.

Luton

Tîm: Tyler, Beckwith, Kovacs, Howells (Rowe-Turner 21’), Henry, Lawless, O’Donnell, Shaw, Rendell, Fleetwood (Walker 59’), Gray (Kasim 77’)

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Wright, Ashton, Riley, Walker, Cieslewicz (Ormerod 81’), Harris, Keates, Hunt, Wright (Ogleby 81’), Bishop

Cerdyn Melyn: Keates 58’

Torf: 6,675