Caerdydd 2–1 Leeds
Bellamy - Yn sgorio oddi ar y fainc
Roedd goliau Craig Bellamy a Peter Wittingham yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Leeds yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Daeth Bellamy oddi ar y fainc yn Stadiwm Dinas Caerdydd i sgorio’r gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Wittingham ddyblu’r fantais o’r smotyn. Ac er i Rodolph Austin dynnu un yn ôl i Leeds fe ddaliodd yr Adar Gleision eu gafael ar y tri phwynt.
Heidar Helguson a gafodd yr unig gyfle o werth mewn hanner cyntaf distaw ond peniodd y blaenwr dros y trawst.
Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl a bu bron i Tommy Smith eu rhoi ar y blaen yn dilyn gwaith da gan Craig Noone ar yr asgell. Bu rhaid i gôl-geidwad Leeds, Paddy Kenny, fod ar flaenau’i draed i atal peniad Mark Hudson hefyd.
Er mai Noone oedd un o chwaraewyr gorau Caerdydd cafodd ei eilyddio wedi 64 munud gan Craig Bellamy a llwyddodd ymosodwr Cymru i greu argraff o fewn tri munud.
Cafodd Nicky Maynard ei lorio gan Michael Tonge ar ochr y cwrt cosbi a saethodd Bellamy y gic rydd ganlynol i gornel uchaf y rhwyd.
Cafodd Maynard ei lorio eto ychydig funudau’n ddiweddarach, yn y cwrt cosbi y tro hwn gan Tom Lees. Peter Wittingham gymerodd y gic y tro hwn gan guro Kenny o ddeuddeg llath i ddyblu mantais Caerdydd.
Ond roedd Leeds yn ôl yn y gêm chwarter awr o’r diwedd diolch i gic rydd Austin o 30 llath. Camgymeriad gan gôl-geidwad Caerdydd, David Marshall, a’r ymwelwyr yn ôl yn y gêm.
Ond y tîm cartref a gafodd y cyfleoedd gorau yn y munudau olaf wrth i ergyd Maynard gael ei chlirio oddi ar y llinell a pheniad Smith gael ei arbed yn wych gan Kenny.
Buddugoliaeth haeddianol i Gaerdydd yn y diwedd felly a buddugoliaeth sydd yn eu codi i’r pumed safle yn y Bencampwriaeth.
Barn y Rheolwr
Doedd dim dwywaith fod Caerdydd yn well wedi’r egwyl ac eglurodd Malky Mackay pam ar ddiwedd y gêm:
“Fe siaradon ni ar hanner amser am godi’r tempo ac ymosod mewn ardaloedd gwahanol yn yr ail hanner… Wedi’r egwyl roeddem fel tîm gwahanol. Mae’n gynnar yn y tymor o hyd ond rwyf wrth fy modd â’r fuddugoliaeth heddiw.”
Caerdydd
Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Noone(Bellamy 64’), Mutch (Gunnarsson), Smith, Helguson, Maynard (Cowie 83’)
Goliau: Bellamy 67’, Wittingham (c.o.s.) 73’
Cerdyn Melyn: Smith 39’
Leeds
Tîm: Kenny, Peltier, Drury (Diouf 46’), Lees, Pearce, Austin, White, Tonge, Byram, Becchio, McCormack (Varney 5’ (Poleon 83’))
Gôl: Austin 77’
Cardiau Melyn: Austin 38’, Tonge 67’
Torf: 23,836
(mwy i ddilyn)