Aston Villa 2–0 Abertawe

Collodd Abertawe am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn oddi cartref ym Mharc Villa brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Matthew Lowton y tîm cartref ar y blaen yn gynnar gydag ergyd o bellter cyn i’r eilydd, Christian Benteke, fanteisio ar lanast amddiffynnol i sicrhau’r tri phwynt yn yr ail hanner.

Cafodd Ashley Williams a Nathan Dyer gyfleoedd cynnar i roi’r Elyrch ar y blaen ond gwnaeth Brad Guzan yn y gôl i Villa yn dda i’w hatal.

Yna, wedi chwarter awr o chwarae rhoddodd Lowton y tîm cartref ar y blaen gyda chwip o ergyd o 25 llath. Roedd hi’n dipyn o ymdrech gan y cefnwr ond wnaeth y gwyriad oddi ar ben Alan Tate ddim helpu Michel Vorm.

Daeth chwaraewr newydd Abertawe, Pablo Hernandez, i’r cae yn yr ail hanner ond ni wnaeth lawer o argraff wrth i Villa wrthod rhoi lle i’r Elyrch chwarae eu gêm basio arferol.

Un o eilyddion y tîm cartref yn hytrach a gafodd y gair olaf sef blaenwr Gwlad Belg, Christian Benteke. Ceisiodd Williams benio’r bêl yn ôl i Vorm ond roedd ei ymdrech flinedig yn rhy wan o lawer a manteisiodd Benteke i ddyblu mantais ei dîm a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn golygu fod tîm Michael Laudrup yn disgyn o’r ail i’r pumed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair yn dilyn buddugoliaethau i Man U ac Arsenal a gêm gyfartal i Man City.

Barn y Rheolwr

Doedd Laudrup ddim yn digalonni gormod er i’w dîm golli am y tro cyntaf:

“Pethau bychain a wnaeth y gwahaniaeth heddiw. Fe wnaeth eu golwr nhw arbediad gwych o ergyd Nathan [Dyer] ac wedyn bum munud yn ddiweddarach fe sgorion nhw gôl wych.”

“Mae’n bosib gwella bob wythnos ond nid yw hynny’n golygu ennill bob gêm. Fe gollon ni heddiw ond gall hynny fod yn beth da weithiau er mwyn gweld ymateb y tîm.”

Aston Villa

Tîm: Guzan, Vlaar, Clark, Lichaj, Lowton, Ireland (Westwood 70’), El Ahmadi, Bannan, Bent, Holman (N’Zogbia 79’), Weimann (Benteke 71’)

Goliau: Lowton 16’, Benteke 88’

Cardiau Melyn: Clark 25’, Lowton 37’, Lichaj 80’

Abertawe

Tîm: Vorm, Tate, Williams, Rangel, Davies, Britton (Shechter 79’), Michu, Dyer, Routledge(Pablo 57’), De Guzman, Graham (Moore 71’)

Cerdyn Melyn: Michu 40’

Torf: 34,005