Scott Sinclair
Gyda’r dyddiad cau ddydd Gwener, fe fydd yn rhaid i Manchester City godi ei bris i gipio Scott Sinclair.

Mae Huw Jenkins wedi gwrthod cynnig o £6.2 miliwn gan Manchester City ar gyfer yr asgellwr.

Roedd yn ymddangos bod Sinclair am adael y Liberty yn fuan ar ôl i Roberto Mancini ddangos diddordeb ynddo.

Roedd yn credu y byddai cynnig o £7 miliwn yn ddigon i ddenu Sinclair.

£1.5 miliwn oedd pris Sinclair pan adawodd Chelsea ar fenthyg i Abertawe ddwy flynedd yn ôl, ond bydd Chelsea yn derbyn 10% o unrhyw elw.