Doedd na ddim goliau i ddiddanu’r dorf yn y gêm rhwng Wrecsam a Grimsby Town heno.

Ond mi wnaeth Ian Mckeown, gôl-geidwad Grimsby, achub ei dîm trwy arbed yn wych ar ôl awr pan beniodd amddiffynnwr Wrecsam, Chris Westwood, y bêl i gyfeiriad y gôl.  Siom i ddilynwyr Wrecsam a rhyddhad i ddilynwyr Grimsby.

Mi gafodd Jay Harris ei anfon o’r cae ond wnaeth Grimsby ddim manteisio ar hyn a di-sgôr oedd hi ar ddiwedd y gêm.