Colli fu hanes tîm pêl-droed Caerdydd oddi cartre ym Mryste prynhawn ʼma.

Bristol City sy’n estyn i ben gynghrair y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw ennill y gêm o bedair gôl i ddwy.

Bristol City oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac fe sgorion nhw ddwy gôl, y gyntaf gan Stephen Pearson a’r ail gan Martyn Woolford.

Mi wnaeth James Mason sgorio i Gaerdydd ar ddechrau’r ail hanner ond yna fe sgoriodd Woolford eto i chwalu eu gobeithion.

Brwydrodd Caerdydd yn ôl eto ac fe sgoriodd Heidar Helguson gyda dim ond wyth munud yn weddill o’r gêm.

Ychydig funudau wedyn sgoriodd Sam Baldock oedd yn chwarae ei gêm gyntaf i Bristol City. Doedd dim digon o amser i Gaerdydd ddod yn ôl eto.