Scott Sinclair
Mae’n debyg y bydd Abertawe yn dweud wrth glwb Manchester City bod yn rhaid iddyn nhw gynnig mwy os ydyn nhw am arwyddo Scott Sinclair.

Yn ôl adroddiadau, mae City yn fodlon talu £5 miliwn amdano, ond mae Abertawe eisiau mwy.

Dywedodd yr asgellwr 23 oed, a fu’n rhan o dîm pêl-droed Tîm GB, wrth yr Elyrch nad oedd am arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Daeth Scott Sinclair ymlaen fel eilydd ym muddugoliaeth Abertawe yn erbyn QPR dros y penwythnos, gan sgorio gôl ola’r gêm.

Gallai gwerthu Sinclair olygu y byddent yn medru dechrau trafodaethau i arwyddo Pablo Hernandez, sef chwaraewr rhyngwladol Sbaen.

Mae’r Sbaenwr wedi dweud y byddai yn hoffi ail ymuno â’r rheolwr Michael Laudrup ar ôl chwarae iddo gyda chlwb Getafe.