Scott Sinclair
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi gofyn am ddatrysiad cyflym i’r dyfalu dros ddyfodol un o sêr yr Elyrch, Scott Sinclair.

Ar ôl gwrthod cytundeb newydd gydag Abertawe, mae adroddiadau yn awgrymu fod yr asgellwr ar ei ffordd i bencampwyr presennol Uwchgynghrair Lloegr, Manchester City.

Daeth Scott Sinclair ymlaen fel eilydd ym muddugoliaeth Abertawe yn erbyn QPR dros y penwythnos, gan sgorio gôl ola’r gêm.

Mae Sinclair eisoes wedi cynrychioli Tîm GB yn y Gemau Olympaidd dros yr haf.

Ki Sung-Yueng

Yn y cyfamser, mae Abertawe mewn trafodaethau â Celtic ynglŷn ag arwyddo’r chwaraewr canol cae ifanc o Dde Korea, Ki Sung-Yueng.

Bu yntau hefyd yn chwarae yn y Gemau, gan sgorio’r gic o’r smotyn buddugol yn erbyn Tîm GB er mwyn eu taro allan o’r gystadleuaeth.

Mae’n debyg fod Ki Sung-Yueng ar ei ffordd i Stadiwm Liberty am £6 miliwn- ar ôl dweud wrth Celtic ei fod eisiau gadael.