Llun: David Hambury/PA Wire
Mae seren newydd tîm pêl-droed Abertawe, Michu, wedi dweud na fedrai ei gêm gyntaf i’r clwb ddoe fod wedi mynd yn well.
Fe sgoriodd y chwaraewr 26 oed o Sbaen ddwy gôl, a dywedodd ei fod wedi mwynhau ymateb ffans yr Elyrch i’w berfformiad.
Fe sgoriodd Abertawe bum gôl i gyd, ac roedd Mark Hughes, rheolwr eu gwrthwynebwyr, QPR, yn flin fod ei dîm wedi cael prynhawn mor siomedig. Roedd y gôl gyntaf wedi bod yn allweddol, meddai.