Lydia Hall
Mae Lydia Hall o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ennill pencampwriaeth golff y Meistri Prydeinig.
Mi roedd hi wrth ei bodd ar ôl ennill o un ergyd.
“Dwi wedi disgwyl pum mlynedd i ennill twrnamaint,” meddai.
Mae Lydia yn 24 oed. Roedd ei thad, Wayne, yn arfer chwarae rygbi dros Gymru, ac mi roedd yno ddoe ar y cwrs yng Nghlwb Golff swydd Buckingham i weld ei ferch yn ennill.
Roedd Lydia wedi cael sgoriau o 66, 71 a 72 yn y gystadleuaeth, gan orffen saith ergyd yn well na’r safon.
Beth Allen o’r Unol Daleithiau ddaeth yn ail.