Dean Saunders
Wrecsam 0 Crawley 0

Roedd y gêm rhwng dau o arweinwyr Cynghrair y Blue Square yn debyg i’r brwydrau tanllyd rhwng Chelsea a Leeds ar ddechrau’r 1970au, meddai rheolwr Wrecsam.

Ond roedd Dean Saunders yn falch bod ei dîm wedi cipio pwynt yn erbyn y clwb sydd yn yr ail safle.

“Dydi’r tîm yma ddim yn plygu,” meddai wrth Radio Wales. “Os ydi hi’n gêm dda o bêl-droed, ryden ni’n dda am hynny. Os ydi hi’n sgrap, ryden ni’n dda am hynny hefyd.”

Er hynny, Crawley fydd hapusa’ ar ôl dod i’r Cae Ras heb rai o’u prif chwaraewyr ac ar ôl gweld Wrecsam yn mynd yn nes at sgorio.

Fe drawodd Mark Creighton y postyn ac fe gafodd peniad ganddo ei glirio oddi ar y lein, a hynny o flaen torf fwya’r tymor o fwy na 4,600 o bobol.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn bedwerydd heb gau’r bwlch ar Crawley, sy’n ail. Ond maen nhw wedi cryfhau eu safle yn y lleoedd ail gyfle.