Joe Allen
Wrth i ddyddiad dechrau’r Gemau Olympaidd agosáu, dros y dyddiau nesaf bydd Golwg360 yn cyhoeddi proffiliau’r holl athletwyr Cymreig fydd yn cystadlu.

Yn gyntaf, dyma grynhoi’r bêl-droedwyr Cymreig fydd yn cystadlu yn lliwiau’r Team GB dadleuol.


Joe Allen

Camp: pêl-droed – chwaraewr canol cae

Oedran: 22 (14 Mawrth 1990)

Taldra : 168cm

Pwysau: 62 kg

Man geni: Caerfyrddin

Clwb: Abertawe

Gyrfa:

  • Dechreuodd chwarae dros dîm ieuenctid  Dinas Abertawe yn 9 oed.
  • Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm hŷn Abertawe yn gêm olaf tymor 2006/2007
  • 2008 – enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn
  • 2009 – chwaraeodd dros Dîm Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf (yn erbyn Estonia)
  • 2011 – chwaraeodd yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 2012 – yn erbyn y Swistir a Bwlgaria

Ffaith ddibwys:

  • Paul Scholes o Manchester United oedd eilun Joe pan oedd yn ei arddegau


Craig Bellamy

Craig Bellamy

Camp: pêl-droed

Oedran: 32 (13 Gorffennaf 1979)

Taldra: 173cm

Pwysau: 67kg

Man Geni: Caerdydd

Clwb: Lerpwl

Gyrfa:

–      Sgoriodd ei gôl gyntaf mewn gêm yn erbyn Maccabi Haifa. Ac mae ‘na siart  o’i goliau ar gyfer gwahanol glybiau:

–      Mae wedi chwarae i 9 clwb gwahanol yn ystod ei yrfa, ac wedi costio cyfanswm o £45m mewn ffioedd trosglwyddo

–      Enillodd wobr ‘Chwaraewr Cymreig y Flwyddyn’ yn 2007.

–      Bu’n gapten ar Gymru rhwng 2007 a 2011.

–      Mae wedi ennill 69 o gapiau dros ei wlad hyd yn hyn.

Ffaith ddibwys

–      Mae’n berchen ar gampfa cwffio gymysg yng Nghaerdydd


Ryan Giggs
Ryan Giggs

Camp: pêl-droed

Oedran:  39 (29 Tachwedd 1973)

Taldra: 180cm

Pwysau: 67kg

Man Geni: Caerdydd

Clwb: Man UTD

Gyrfa:

Does dim llawer nad yw Ryan Giggs wedi cyflawn yn ystod ei yrfa, ond dyma rai pethau arwyddocaol:

–      Mae wedi chwarae i Man UTD trwy gydol ei yrfa, ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Everton ar 2 Mawrth 1991

–      Mae’n dal y record am y nifer o ymddangosiadau dros ei glwb (909) ac mae wedi sgorio 163 o goliau dros y ei glwb.

–      Enillodd deitl ‘Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn’ y PFA ddwywaith yn olynol ym 1992 1 1993

–      Enillodd deitl ‘Chwaraewr y Flwyddyn’ y PFA yn 2009, a chafodd ei enwi’n ‘Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn’ gan y BBC yn yr un flwyddyn.

–      Mae wedi ennill 12 Pencampwriaeth yr Uwch Gynghrair, 4 Cwpan FA, 3 Cwpan y Gynghrair a 2 Gynghrair y Pencampwyr.

–      Enillodd 64 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 12 o goliau cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2007.

Ffaith ddibwys:

–      Yn 2007 derbyniodd Giggs y ‘Rhyddid i Ddinas Salford.


Aaron Ramsey
Aaron Ramsey

Camp: Pêl-droed

Oedra:  22 (26 Rhagfyr 1990)

Taldra: 178cm

Man geni: Caerffili

Pwysau: 76kg

Clwb: Arsenal

Gyrfa:

–      Dechreuodd y chwaraewr canol cae ei yrfa gyda Chaerdydd, gan chwarae 16 o weithiau cyn symud i Arsenal am £5m yn 2008.

–      Mae wedi chwarae 67 o weithiau dros Arsenal hyd yn hyn gan sgorio 6 gôl.

–      Gwnaeth Ramsey ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Denmark ar 19 Tachwedd 2008, yn 17 oed.

–      Cafodd ei benodi’n gapten ar ei wlad gan y rheolwr Gary Speed ym Mawrth 2011 – capten ieuengaf Cymru yn 20 mlwydd a 90 niwrnod,

Ffaith ddibwys:

–      Dosbarthu papurau newydd oedd gwaith cyntaf Ramsey, a’i gar cyntaf oedd Ford Fiesta.


Neil Taylor
Neil Taylor

Camp: Pêl-droed (cefnwr chwaith)

Clwb: Dinas Abertawe

Oedran: 23 (7 Chwefror 1989)

Man geni: Llanelwy

Taldra: 175cm

Pwysau: 65kg

Gyrfa:

–      Dechreuodd Taylor ei yrfa broffesiynol yn Wrecsam, gan symud i Abertawe am £150,000 yn 2010

–      Mae wedi gwneud 141 o ymddangosiadau hyd yn hyn gan  sgorio tair gôl.

–      Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Croatia ym Mai 2010 May 2010 against Croatia, ac mae wedi ennill 9 o gapiau hyd yn hyn.

Ffaith ddibwys:

–              Mae Taylor o dras Indiaidd wrth fod ei fam yn dod yn wreiddiol o Calcutta

Bydd y 5 Cymro’n gobeithio ennill eu lle yn y tîm pan fyddan nhw’n chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Senegal ar 26 Gorffennaf (20:00).

Gobeithio am fedal: Mae Prydain yn 10/1 i ennill y fedal aur yn ôl cwmni betio Corbett Sports.

Amserlen Grŵp A

26 Gorffennaf   20:00 Great Britain  –   Senegal

29 Gorffennaf 19:45 Great Britain   –   UA Emirates

1 Awst 19:45 Great Britain     –  Uruguay

Casglwyd y wybodaeth gan – Marta Klonowska, Asia Rybelska a Kinga Uszko