Llwyddodd Y Seintiau Newydd i orffen cymal cyntaf eu gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Helsingborgs yn ddi-sgôr.
Helsingborgs oedd pencampwyr Sweden y tymor diwethaf.
Y Seintiau Newydd gafodd y rhan fwyaf o’r meddiant am gyfnodau hir yn ystod y gêm, ac fe fyddan nhw’n teithio i Sweden ar Orffennaf 25 ar gyfer yr ail gymal, yn gwybod y gallai un gôl fod yn ddigon i symud ymlaen i’r rownd nesaf.
Y tro diwethaf i Helsinborgs ymddangos yn y gystadleuaeth, yn 2000-01, curon nhw Inter Milan i gyrraedd rownd y grwpiau.
Mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn y garfan y tymor hwn.
Collodd Y Seintiau Newydd yn nhrydedd rownd ragbrofol y gystadleuaeth hon yn erbyn Anderlecht yn 2010.