Frank Schleck
Mae Frank Schleck o Lwcsembwrg wedi methu prawf cyffuriau yn ystod y ras feiciau Tour de France yn Pau.

Cafodd y cyffur Xipamide ei ddarganfod yn ei system yn dilyn prawf ar Orffennaf 14.

Roedd y beiciwr 32 oed yn 12fed yn y gystadleuaeth.

Mae Schleck wedi gwrthod yr honiadau ei fod wedi cymryd y cyffur ar bwrpas, ac wedi dadlau ei fod wedi cael ei wenwyno.

Mae e wedi gofyn am brawf ‘B’ er mwyn ceisio gwyrdroi’r canlyniad cyntaf.

Bydd Schleck yn dadlau ei fod wedi cael ei wenwyno os bydd yn methu’r prawf ‘B’.

Mae ei dîm, RadioSchack-Nissan wedi ei dynnu allan o’r gystadleuaeth er mwyn iddo gael amser i baratoi i’w amddiffyn ei hun.

Cafodd Schleck ei holi gan yr heddlu yn Pau ddydd Mawrth.

Dywedodd ei dîm mewn datganiad: “Mae ein tîm yn rhoi pwys mawr ar fod yn dryloyw. Ar ôl cael ein hysbysu gan yr ICU (yr Undeb Seiclo Cenedlaethol) bod Xipamide yn bresennol ym mhrawf wrin Frank Schleck ar 14 Gorffennaf, mae’r tîm wedi penderfynu tynnu Frank Schleck allan o’r Tour de France ar unwaith.

“Er nad yw sampl ‘A’ annormal yn gofyn am y fath gamau, mae Mr Schleck a’r tîm o’r farn mai dyma’r peth priodol i’w wneud er mwyn sicrhau y gall y Tour de France barhau’n dawel ac y gall Frank Schleck baratoi i’w amddiffyn ei hun yn unol â’r amser sy’n cael ei ganiatáu’n gyfreithiol i wneud hynny.”

Yn ddiweddarach y mis yma, cafodd Remy di Gregorio o Ffrainc ei gyhuddo o gymryd cyffuriau yn ystod y gystadleuaeth.