Andy Legg
Fe fydd Llanelli yn croesawu KuPS am yr ail gymal yng nghystadleuaeth Cwpan Europa am 6:30yh heno ym mharc Stebonheath.

Fe wnaeth y Cochion ildio ddwy gôl yn y 20 munud agoriadol yn erbyn y tîm o’r Ffindir.

Ond cyn hanner amser, fe wnaeth Jason Bowen sgorio i roi ychydig o obaith i Lanelli.

‘‘Yn bersonol, nhw yw’r ffefrynnau.  Nid oes angen iddyn nhw sgorio.  Mae angen i ni fynd allan a chipio’r gôl yna i gamu i’r rownd nesaf,’’ meddai Andy Legg, rheolwr Llanelli.

Mae Andy Legg yn credu bod  Llanelli yn haeddu gêm gyfartal yn y erbyn y tîm sydd ar y funud ar waelod y tabl yng nghynghrair cyntaf Ffindir.

‘‘Maent yn ochr da, ac efallai bydd yn rhaid i ni newid ein tactegau yn eu herbyn,’’ ychwanegodd Legg.