Fe fydd y Derwyddon yn herio MyPa yn Stadiwm Lahti am 6:30yh heno.
Fe wnaeth y Derwyddon sicrhau un o’r canlyniadau gorau yn hanes clybiau Cymru wedi iddyn nhw lwyddo i gael gêm gyfartal yn y cymal gyntaf yn erbyn MyPa.
Y Derwyddon Cefn yw’r clwb cyntaf yn yr ail gynghrair i gystadlu yn Ewrop.
‘‘Mae’n gêm anferth a bydd rhaid i’r bechgyn fod yn ymwybodol o hynny. Maent yn dîm cryf, a thybiwn y byddent yn hollol wahanol ar dir eu hunain i’w chwarae,’’ meddai’r rheolwr Huw Griffiths.
‘‘Byddan nhw’n fwy ymwybodol o’r hyn y gallwn ni ei wneud. Ac y tro yma, gallwn ddisgwyl iddynt fod yn ymosod yn fwy bygythiol ac yn ceisio cael y bêl tu ôl i’n cefnwyr,’’ ychwanegodd Griffiths.