Scott Sinclair
Mae Scott Sinclair wedi datgelu ei fod yn barod i drafod ei gynlluniau am ei ddyfodol gyda’r Elyrch ar ôl y Gemau Olympaidd.

Mae Aston Villa, Fulham a Lerpwl i gyd wedi bod yn gysylltiedig â phenderfyniad posib yr asgellwr 23 oed i symud.

Mae Abertawe yn awyddus i gadw Sinclair ar gytundeb newydd gan ei fod wedi sefydlu ei hun fel chwaraewr allweddol a’r ôl symud o Chelsea ddwy flynedd yn ôl.

Roedd yr Elyrch wedi gobeithio trafod gyda Sinclair am ei ddyfodol cyn iddo ymuno gyda’r garfan Brydeinig.

‘‘Y cyfan rwy’n canolbwyntio arno ar hyn o bryd yw’r Gemau Olympaidd,’’ meddai Sinclair wrth y Western Mail.

Rheolwr Lerpwl Brendan Rodgers  ddaeth â Sinclair i Abertawe, a chredai nifer y bydd Sinclair yn ymuno ag ef yn Lerpwl.  Ond ni all Rodgers wneud cais am unrhyw un o sêr y clwb yn ystod y 12 mis nesaf oherwydd ei gytundeb.

Mae gan Sinclair barch mawr tuag at Rodgers ac yn dymuno pob lwc iddo yn ei swydd newydd.

‘‘Roeddwn yn siomedig i golli Brendan, fe ddaeth â fi i Abertawe, a finnau’n cael cyfle i chwarae yn gyson,’’ meddai Sinclair.

Mae Sinclair yn awyddus i weld beth fydd ei reolwr newydd yn cynnig ar ôl ymadawiad Rodgers.

Er hyn, nid yw Sinclair yn disgwyl gormod o newidiadau yn Stadiwm y Liberty wrth i’r cyfnod newydd ddechrau hebddo ef.