Michael Laudrup
Mae rheolwr newydd clwb pêl-droed Abertawe, Michael Laudrup, wedi dweud ei fod yn barod i wrando pe bai clybiau’n dangos diddordeb yn ei chwaraewyr gorau.
Mae yna amheuon ynghylch dyfodol Joe Allen gyda’r clwb wrth i nifer o glybiau mwyaf Uwch Adran Lloegr baratoi i wneud cynnig amdano.
Mae yna adroddiadau y gallai’r chwaraewr canol-cae ymuno â’i gyn-reolwr, Brendan Rodgers yn Lerpwl.
Fel rhan o’r cytundeb i adael i Rodgers ymuno â Lerpwl, nid oes hawl ganddo brynu chwaraewyr Abertawe am flwyddyn.
Ond pe bai clybiau eraill yn gwneud cynnig am Allen, byddai gan Rodgers yr hawl i siarad â’r Cymro.
Dywedodd Laudrup: “Mae’n arferol bod yna ddiddordeb ond wrth gwrs, rydym am gadw ein chwaraewyr gorau yma.
“Ond fel rhan o bêl-droed, rhaid derbyn weithiau bod pobl yn gadael pan fydd y cynnig yn rhy fawr – i’r clwb ac i’r chwaraewr.”