Mae corff llywodraethol pêl-droed y byd, FIFA, am edrych i mewn i honiadau cyn-chwaraewr ynglŷn â betio.

Bydd prif ymchwilydd FIFA yn Lloegr yn edrych ar sylwadau Claus Lundekvam, cyn-gapten Southampton, a oedd wedi honni fod betio yn amlwg yn y gêm ar ddiwedd y 90au.

Mewn cyfweliad â phapur newydd yn ei famwlad yn Norwy, dywedodd Claus Lundekvam fod chwaraewyr yn trafod digwyddiadau ymlaen llaw a betio ar hynny.

Dywedodd fod chwaraewyr, aelodau o staff y clwb a chapteiniaid y timau gwrthwynebol yn betio ar ddigwyddiadau megis pwy fyddai’r cyntaf i dderbyn cerdyn melyn.

Ond doedd neb, hyd y gwyddai, erioed wedi ceisio dylanwadu’n anonest ar ganlyniad gêm.

Mewn datganiad, dywedodd FIFA: “Mae FIFA yn monitro’r sefyllfa. Unwaith mae’r holl wybodaeth ar gael mi wnawn ni benderfynu pwy fydd yn arwain yr ymchwiliad.”

Chwaraeodd Claus Lundekvam dros 350 o weithiau dros Southampton rhwng 1996 a 2008.