Johan Cruyff yn ei ddyddiau canu
Yn ôl cyn-reolwr Abertawe Jan Molby mae ei gydwladwr o Ddenmarc, Michael Laudrup yw’r dyn perffaith i reoli’r Elyrch.
Laudrup yw’r ffefryn i lenwi’r twll adawyd pan drodd Brendan Rodgers am Anfield.
Y son yw y bydd Laudrup o bosib yn cael ei ddadorchuddio’n reolwr Abertawe ryw ben y prynhawn yma.
Yn ôl Molby mae’r Iseldirwr Johan Cruyff – un o wir gewri’r gêm – wedi dylanwadau’n drwm ar ffordd o feddwl Laudrup, a chwaraeodd i Barcelona a Real Madrid.
Mae ei athroniaeth bêl-droed yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi ei feithrin ar y Liberty gan Roberto Martinez a Brendan Rodgers.
‘‘Cafodd Michael ddylanwadu’n gryf gan Johan Cruyff pan oedd yn Barcelona yn y 1980au hwyr – 1990au cynnar,’’ meddai Molby wrth Adran Chwaraeon y BBC.
‘‘Dyna sut y mae ef am chwarae pêl-droed, a dyna sut chwaraeodd yr Elyrch o dan arweiniad Brendan Rodgers. Maen nhw’n ddewr, ac mae hynny wedi gweithio’n dda ar eu cyfer yn yr Uwch Gyngrhair.
‘‘Ni fydd raid i Michael dechrau o’r dechrau gyda grŵp o chwaraewyr sydd ddim yn gyfforddus yn trafod y bêl a chadw meddiant,’’ dywedodd Jan Molby.
Er iddo ennill yr Uwch Gyngrhair Sbaenaidd bump o weithiau yn y 1990au cynnar, nid yw wedi profi’r un math o lwyddiant yn ystod cyfnodau’n hyfforddi gyda Brondby, Getafe, Spartak Moscow a Mallorca.