Gylfi Gylfi beth yw'r sgor?
Mae rheolwr Lerpwl yn cadw llygaid barcud ar sefyllfa Gylfi Sigurdsson, ond yn mynnu ei fod yn anrhydeddu cytundeb Abertawe gyda’r chwaraewr canol cae.

Tra ar fenthyg gydag Abertawe roedd Sigurdsson wedi creu argraff ar y cae dan arweiniad Brendan Rodgers.

Fe gytunodd yr Elyrch i dalu £6.8 miliwn i glwb Almaenig Hoffenheim am y chwaraewr rhyngwladol o Wlad yr Iâ y mis diwethaf, a chadarnhaodd ei fod wedi cytuno ar delerau personol.

Fodd bynnag, ers symud i Anfield, mae Brendan Rodgers wedi bwrw cysgod dros bryniant Sigurdsson, a’r gred yw y bydd yn dilyn cyn-reolwr y Swans i Lannau Merswy.

Datgelodd y chwaraewr ifanc yn gynharach y mis hwn y byddai’n annhebygol o lofnodi i’r Elyrch yn dilyn ymadawiad Rodgers.