Fe gawson nhw un shot ar ôl gôl yn eu gêm ddiwetha’ yn erbyn Ffrainc, cyn gorfod amddiffyn am eu bywydau.

Ac nid ydyn nhw erioed wedi curo’u gwrthwynebwyr heno mewn twrnament o bwys.

Ond er hynny mae capten y Saeson yn dweud ei fod yn rhagweld ‘buddugoliaeth dda’ yn erbyn Sweden.

Yn ôl Steven Gerrard nid yw’r Swedeniaid yn ymdopi’n rhy dda gyda chroesiadau o’r esgyll i’r blwch cosbi.

Cyn i neb ruthro i gyhuddo’r blogiwr o ladd ar bopeth San Siorsaidd o ran sbeit, gadewch i ni gofio bod y Sacsoniaid wedi cael timau rhagorol yn y gorffennol.

Cofiwn yn iawn Ingland Bobby Robson yn dod o fewn trwch blewyn i guro Archentina Maradonna yn 1986, yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ym Mecsico.

Petae Lineker wedi medru cyrraedd croesiad John Barnes i unioni’r sgôr, teg dweud y byddan nhw fwy na thebyg wedi camu ymlaen i orchfygu’r Arjis yn yr amser ychwaengol  a chael shot dda o godi’r tlws eto am y tro cyntaf ers 1966.

A tasa’r Hand of God felltigedig yna heb ddod i’r adwy yn yr hanner cyntaf…bechod!

Ond mae’r tîm presennol yn un sobor o stiff a diddychymig, a rhaid rhagweld na ddaw’r fuddugoliaeth rwydd y sonia Stevie G amdani.

A ninnau dan don dabloid gyson o straeon pro-Ingland sy’ mor hoff o frolio Wayne Rooney i’r cymylau, beth am berspectif un sydd â’i draed ar y ddaear?

Dyma sydd gan un o gyn-chwaraewyr Sweden, Jonas Thern, i’w ddweud:

“Yn ôl pob tebyg yr oll oedd angen i danio syniad y Saeson eu bod nhw ben ag ysgwydd yn well nag unrhyw wlad arall yn y byd am chwarae pêl-droed, oedd un shot at gôl mewn 90 munud o chwarae yn erbyn Ffrainc.

“Mi ddywedes i cyn cychwyn ffeinals Euro 2012 y byddai Sweden yn curo Lloegr, ac rwy’n parhau o’r farn honno er gwaetha’ perfformiad erchyll Sweden yn erbyn yr Wcraen.”