Mae llwyth newydd o 50,000 o dicedi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain, wedi mynd ar werth heddiw.

Maen nhw’n cynnwys 25,000 o dicedi i fynd i weld gemau hoci; seddi ar gyfer gwylio’r deifio, y pentathlon modern, polo dwr a phêl fasged.

Roedd y ticedi wedi cael eu cadw wrth gefn, ond mae’r trefnwyr bellach wedi cadarnhau union niferoedd y seddi ym mhob un o’r canolfannau yn y Parc Olympaidd yn Stratford.

Yn ôl Cyfarwyddwr Masnachol Llundain 2012, Chris Townsend: “Mae’r llwyth yma o docynnau yn rhoi cyfle gwych i bobol fynd i weld pob math o chwaraeon yn y Parc Olympaidd.

“Fe fydd tocynnau ar gyfer mwy o gampau ar gael hefyd yn ystod yr wythnosau nesa’.

“Ar gyfer y bobol hynny sydd ddim yn gallu mynd i ddigwyddiad y mae ganddyn nhw docynnau ar ei gyfer, hefyd yn gallu ail-werthu eu ticedi,” meddai wedyn. “Dyma ffordd y gall pobol werthu eu tocynnau mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon.”